Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
29 Mawrth 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bod y Cynulliad yn ystyried effaith tanio Erthygl 50 ar Gymru.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.70, cynhelir pleidlais ar y cynnig ar unwaith.
I’r Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd:
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reolaeth Chwaraeon Cymru yn y dyfodol yn dilyn y penderfyniad i roi terfyn ar swyddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y sefydliad? EAQ(5)0154(HWS)W
(5 munud)
(60 munud)
NDM6275 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr Ymchwiliad i Ddarparu Eriolaeth Statudol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2017.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2017.
(60 munud)
NDM6276
Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2017.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2017.
(60 munud)
NDM6274
David Rowlands
(Dwyrain De Cymru)
Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni.
2. Yn credu y bydd herio barn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar y gobaith o lwyddo ac y dylai newidiadau i sefydliadau addysgol sy'n cwmpasu Cyfnodau Allweddol 1 i 5 gael eu gwneud mewn ffordd a gaiff ei chefnogi gan y mwyafrif o rieni, gwarcheidwaid neu drigolion lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau addysgol ar ran eu plant.
3. Yn credu bod angen i gynigion i newid ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion dwy-ffrwd neu ysgolion pontio yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu eu cau gynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:
a) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post;
b) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; ac
c) nad yw'n rhoi blaenoriaeth i drydydd parti, nad yw'n gysylltiedig â'r mater, dros ddymuniadau rhieni neu drigolion lleol.
4. Yn credu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin cyn penderfynu cau ysgol babanod ac ysgol iau ffederal dwy-ffrwd Llangennech a'u troi'n un ysgol cyfrwng Cymraeg yn un gwallus.
5. Yn credu y dylai'r cyngor ddiddymu ei benderfyniad tra cynhelir ymgynghoriad pellach ar sail yr egwyddorion a nodir ym mharagraff 3 uchod.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Cymraeg yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Yn cydnabod bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion yn eu hawdurdodaeth.
'Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013'
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
2.
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1.
[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1.
4.
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod cwymp wedi bod yn nifer yr athrawon Cymraeg eu
hiaith sy'n dechrau yn y proffesiwn.
5.
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y broses o gau ysgolion wedi cael effaith anghymesur ar ysgolion cyfrwng Cymraeg.
6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a chymdeithasol dwyieithrwydd.
7.
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neb newid yn y blynyddoedd diwethaf.
8.
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig.
Yn nodi bod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir
Caerfyrddin 2014-2017, a oedd yn cynnwys y penderfyniad i sefydlu
ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech, wedi'i gymeradwyo'n unfrydol
gan y Cabinet o dan arweiniad Llafur ym mis Gorffennaf 2014, a bod
yr holl benderfyniadau dilynol wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdodau
priodol.
'Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir
Gaerfyrddin 2014-2017'
(30 munud)
NDM6266
Dawn Bowden
(Merthyr Tydfil a Rhymni)
Undebau Credyd: Cyfraniad allweddol i fynd i'r afael ag
allgáu ariannol
(30 munud)
NDM6273 Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)
Enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon - a all Cymru arwain y ffordd?
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Ebrill 2017